Rhwng canol Tachwedd a'r Nadolig, mae Macedonia'n gallu bod yn reit llwyd. Dwi'n gweld hi'n anodd teimlo'n Nadoligaidd pan mae'r tywydd felly, a'n anodd ail-gydio yn fy ngwaith efo unrhyw frwdfrydedd yn y flwyddyn newydd, am fod Nadolig Macedonia yn digwydd rhwng y 5ed a'r 7fed o Ionawr, a'r cyfnod Nadoligaidd yn mynd i deimlo'n ddi-ddiwedd. Bah humbug.

Mae Rhagfyr yn fis da i adlweyrchu, yn enwedig y flwyddyn yma. Dwi'n sgwennu hwn ar y 31ain, diwrnod ola'r flwyddyn, a'r pwynt hanner ffordd swyddogol ar gyfer y 2020au. Hanner ffordd! Rhiwsut mae hanner y ddegawd gychwynodd efo Cofid wedi mynd, a dwi'n teimlo fod dim byd wedi newid. Dydi hyn ddim yn wir, yn amlwg - mae lot fawr o bethau wedi newid - ond mae gen i'r teimlad annifyr 'ma y dylwn i fod yn well mewn riw ffordd erbyn hyn: Gwell ddarlunwraig, gwell weithiwr, gwell berson; ond dwi'n methu rhoi fy mys ar be'n union dwi fod i wella.
Weithiau mae'r imposter syndrom yn beth da - mae'n gwthio rhiwun i drio'n galetach ac i wella. Ar y llaw arall mae'n gallu troi'n hen lais bach annifyr, anghynhyrchiol yn reit sydyn.

Cefais adborth gan asiant yn ddiweddar ar fy mhortffolio, oedd yn brofiad diddorol. Ers Hydref 2023 dwi wedi newid fy null o weithio - yn lle creu gwaith yn 100% ddigidol, dwi'n defnyddio cyfrwng cymysg. Roedd yr adborth yn bositif, ond pan wnes i ddangos y gwaith oeddwn i'n creu yn yr hen ddull, y gwaith ddigidol oeddwn i'n greu o'r blaen, dyma'r asiant yn dweud fod hwnnw'n debygol o fod yn fwy "commericially viable".
Dwi'n ddiolchgar iawn am yr adborth, ond roeddwn i eisiau tynnu gwallt fy mhen. Roeddwn i'n meddwl mod i ar y trywydd iawn efo'r dull newydd yma, ond efallai byddai wedi bod yn well 'taswn i wedi sdicio at yr hen ffordd o weithio.
Yn dilyn y profiad dyma fi'n penderfynnu gwneud 'chydig bach o market research, a chynhyrchu dau fersiwn o'r un darlun isod. Gyrrais y rhain i ffrindiau, clientiaid a theulu i ofyn pa un oedd orau ganddyn nhw.
Roeddwn i'n barod am siom, i weld fod yn llawer gwell gan bawb yr hen ffordd o weithio, ond roedd y canlyniad yn fwy frustrating byth: roedd y farn yn 50/50.
Ar un llaw mae hyn yn gret, a'n ganiatad i gario 'mlaen ar yr un trywydd, neu hyd yn oed i weithio yn y ddau ddull yn dibynnu ar anghenion y prosiect. Mae'n dangos hefyd yn dangos pa mor subjective ydi darlunio, a mae'n bwysig peidio rhoi gormod o bwysigrwydd i farn un person yn unig.
Ar ddiwedd y dydd, mae'n debyg na ddaeth dim byd mawr o'r arbrawf bach hwn, ond roeddwn i'n teimlo ei fod yn bwysig i ymateb i'r adborth a bod yn proactive wrth drio gwella fy nghrefft. Mae hyn yn agwedd dwi'n gobeithio cario drwy ail hanner y ddegawd - bod yn barod i fethu, hyd yn oed os nad oes dim yn newid.
Ar benwythnos ola'r flwyddyn, dyma ni'n anelu am gopa mynydd Kozijak. Roeddan ni wedi bod yn barod yn Hydref 2022 (mae 'na bel disco yn lle trigpoint ar y top), a roeddwn i wedi bod yn ysu i fynd eto ers misoedd. Ar ôl cerdded am gyfnod dyma ni'n sylwi fod y ci (sydd wrth ei fodd efo'r tywydd oer) yn diflannu i'r eira, oedd yn cyrraedd fy nghlun mewn sawl man. Er gwaetha'r tywydd perffaith, dyma ni'n penderfynu ar ôl paned mai troi'n ôl fyddai orau. Roeddwn i'n siomedig, ond eto wrth wylio'r machlud yn y car ar y ffordd adref, yn reit falch - weithiau mae gwybod pryd i stopio'n well na dioddef yn styfnig er mwyn cyrraedd y copa.

Comments