top of page

Ionawr 2025

lleucugwenllian

Dwi'n caru mis Ionawr.


Ella fod yr holl gwyno am y tywydd yn y ddau bost dwytha'n awgrymu'r gwrthwyneb, ond mae'n wir. Ionawr ydi calon y gaeaf - does dim ffoi o'r oerfel, a dim i'w wneud ond cofleidio'r tymor.

Eira mân, Eira mawr!
Eira mân, Eira mawr!

Mae dechrau 2025 yn ddechrau newydd a'n gam i mewn i ail hanner y ddegawd - ac mae gen i ddau darged penodol am y flwyddyn yma.


Y cyntaf ydi anelu am 100 gwrthodiad. Mae'n swnio braidd yn masochistic, ond neshi ddod ar draws y syniad rai misoedd yn ol a dwi wrth fy modd. Yn ol y theori, os ydych chi'n mynd amdani digon o weithiau i gael 100 "na", rydych bron yn sicr o gael un neu ddau "ia, oce 'ta!" yn y mix!


Yr ail nod ydi treulio 30 munud pob dydd yn gwella fy sgiliau darlunio. Dwi wedi cael llwyth o hwyl yn sgwennu sialens bach ar gyfer bob mis i fy hun, ac er nad ydw i'n disgwyl llwyddo i wneud hyn bob dydd, mae'n reit exciting!


Sialens mis Ionawr oedd ail-gydio mewn figure drawing, agwella fy sgiliau anatomi. Dyma ambell i dudalen o frasluniau 30 eiliad, 1 munud, 2 funud a 5 munud:


Ddim byd penodol o drawiadol, ond roedd o'n gymaint o hwyl i jyst braslunio heb orfod poeni am gyflawni briff - rhywbeth dwi prin iawn yn gwneud y dyddiau yma!



Mi gafon ni lwyth o eira yn mis Ionawr, a llwyth o hwyl i gyd-fynd a fo. Ar y 1af o Ionawr mae ganddon ni draddodiad o fynd i gerdded, ac wrth fynd tuag at Bolovanski Kamen ar y 1af o ionawr, roeddwn i'n teimlo'n ddiolchgar iawn - am brydferthwch y byd, am ffrindiau da, am deulu annwyl ac am gael darlunio fel bywoliaeth.


Bolovanski Kamen ar y 1af o Ionawr
Bolovanski Kamen ar y 1af o Ionawr


 
 
 

Recent Posts

See All

Comments


  • Instagram
bottom of page